| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| Mike Williams | Grwp Rhwydweithio Ynys Mon/Gwynedd | March 02, 2009 2:14 PM |
Bydd cyfarfod olaf y grwp yn ei gynnal ar dydd Mawrth 17Mawrth 2009. Mae Simon Jones o Penllyn.com wedi bod yn brysur yn creu wefan newydd (www.blogit.org.uk) fydd yn helpu´r aelodau i gysylltu a´u gilydd.
Bydd blogit hefyd yn cynnig gwasanaeth blog fydd ar gael i´r aelodau yn unig, er mwyn sicirhau bydd yn bosibl trafod materion yn gyfrinachol.
| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| Alun Burge | Dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd | March 20, 2008 10:10 AM |
Yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf a roddais ar 7fed Chwefror mae gennym wybodaeth ychwanegol i’w rhannu yn awr ynghylch ein cyllid.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo cyllid i dalu am staff craidd Cymunedau @Ei Gilydd yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru am gyfnod o 3 mis arall hyd at ddiwedd Medi 2008. Bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer ymestyn cyllid ar gyfer rhai o’r prosiectau hyd at ddiwedd Medi, yn amodol ar gyflawni canlyniadau ychwanegol clir.
Alun Burge
Rheolwr Prosiect Cymunedau @Ei Gilydd
| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| catherine.padfield | Deddf Iaith ar y wê | February 18, 2008 12:58 PM |
Deddf Iaith ar y wê – mae wefan newydd dwyieithog wedi ei lansio er mwyn trafod dyfodol yr Iaith Cymraeg a pynciau eraill. Mae eisiau barn pawb, bydd deddfau newydd yn effeithio pob un ohonyn ni. Ewch i http://wikideddfu.com
| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| alun.burge | Dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd | February 07, 2008 10:46 AM |
| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| catherine.padfield | agored - meddalwedd swyddfa dwyieithog | November 29, 2007 11:19 AM |
Bore da
“Ffrwyth Cynllun Agored yw’r llawlyfr hwn. Yr oedd i’r cynllun ddwy ran. Nod y rhan gyntaf oedd trosi meddalwedd swyddfa OpenOffice.org i’r Gymraeg. Wedi’i drosi, aethwyd ati i’w osod gefn wrth gefn â’r fersiwn Saesneg, a’i addasu ar gyfer anghenion pawb yng Nghymru a thrwy’r byd sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar eu cyfrifiadur boed hynny’n gyson neu’n achlysurol. Nod ail ran y prosiect oedd paratoi llawlyfr a’i anelu at ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith er mwyn eu harwain trwy’r rhagleni.”
Datblygwyd Agored o OpenOffice.org 2.0 – casgliad o raglenni cyfrifiadurol safonol ar gyfer y swyddfa sydd yn eich galluogi i weithio yn gyfan gwbl yn Gymraeg, yn gyfan gwbl yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Mae rhaglen Agored, fel pob rhadlen côd agored arall, ar gael yn rhad ac am ddim – allwch chi ddadlwytho’r rhaglen o www.agored.com, neu allwch chi prynnu cryno ddisg o’r wefan (mae’r llyfr yn dod gyda cryno ddisg).
| Awdur | Testun | Cyhoeddiad Diwethaf |
|---|---|---|
| elizabeth.hudson | croeso | October 31, 2007 11:21 AM |